Allan o'r cysgodion


Book Description

Cofiant Julian Lewis Jones, yr actor a'r cyflwynydd teledu. Mae wedi gwneud enw iddo'i hun fel actor yn Hollywood mewn ffilmiau fel Invictus gyda'r cyfarwyddwr Clint Eastwood, a Zero Dark Thirty, ffilm Kathryn Bigelow.




Y Fro Dywyll


Book Description

Nofel hanesyddol gyffrous sy'n symud o Gymru i feysydd y Rhyfeloedd Cartref yn Lloegr ac i goedwigoedd gogledd America, wedi'i gosod ym merw un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes ynysoedd Prydain, yn wleidyddol ac yn grefyddol.




Y Ddwy Lisa - Sgrech y Dylluan


Book Description

Mae Y Ddwy Lisa yn adrodd hanes Lisa Angharad a Lisa Marie, y ddwy ar yr wyneb yn gymeriadau hollol wahanol i'w gilydd. Ond mae bywydau'r ddwy'n dod ynghyd mewn modd tywyll sydd y tu hwnt i realiti. Nofel sy'n dal gafael hyd at y diwedd.




Tacsi I Hunllef


Book Description

Mae Ffion, y gyrrwr tacsi, a Josh ei mab yn gymeriadau pwysig yn y nofel gyffrous hon. Mae Josh mewn cariad efo Mari sy'n byw yn Heol y Garn, ardal lawer mwy cefnog.




Trigo


Book Description

Stori epig, ffantasïol yw Trigo. Mae'r nofel yn ymwneud â dial a chyfiawnder, llygredd a phŵer, unigrwydd a chyfeillgarwch. Cawn hanes trigolion y Pedair Ynys a'r rhwystrau ddaw i'w rhan. Mae ynys fechan ger y Pedair Ynys o'r enw Ynys Trigo. Yno mae Calrach, wedi ei gloi yn Ogof Tywyllwch, ac mae'n ceisio dod o hyd i ffordd o ddianc... An epic, fantasy story about revenge and justice, corruption and power, loneliness and friendship. We learn of the obstacles facing the inhabitants of the Four Islands. On one of the islands, called Trigo, lives Calrach, who is locked in the Dark Cave, and is looking for a way to escape.




Mamiaith


Book Description

Wedi'r cynhesu byd eang daeth y Toddi Mawr. Wedyn, daeth yr Arch. Mae rheolwr newydd yr Arch eisiau gwahardd siarad am byth. Ond Crefftwr Geiriau ydi Mair, a'i gwaith yw cadw'r geiriau'n fyw. Yng nghysgodion y coed, mae hi a'r crefftwyr eraill yn dysgu'r plant am iaith, cerddoriaeth a chelf.




Ffydd Gobaith Cariad


Book Description

Nofel rymus, ddirfawr sy'n llawn datblygiadau annisgwyl. Mae'r stori yn troi o gwmpas Alun Brady, dyn sydd wedi byw bywyd tawel a chysgodol yng nghartref crand ei rieni yng Nghaerdydd. Ond pan ddaw ei dad-cu drygionus i fyw ac i farw gyda'r teulu, dyma ddechrau ar newidiadau enfawr a dyfodiad cymeriadau lliwgar i fywyd Alun. Nofel am yr hyn sy'n tarfu ar dawelwch undonog bywyd.




Mr Blaidd


Book Description

Nofel dditectif gyffrous wedi'i lleoli yn nhref ddychmygol Gerddi Hwyan, ger Caerdydd. Ar ol cael ei hebrwng am noson o waith gan Mr Blaidd daw diwedd sydyn i fywyd putain ifanc yn y dref. Wrth i'w hefaill ddod draw i ymchwilio i'r dirgelwch daw i adnabod yr heddlu llwgr, darpar gariad a nifer o gymeriadau rhyfeddol a chwedlonol eraill sy'n ei harwain at y llofrudd.




Haf o Hud


Book Description

Dyma stori ryfeddol am bŵer cymuned, sy'n rhoi cyfle i bawb serennu, gan yr awdur arobyn Caryl Lewis. Addasiad yw Haf o Hud o lyfr llwyddiannus Caryl Lewis, The Magician's Daughter. A miraculous story about the power of community and giving everyone a chance to shine, by the award-winning author Caryl Lewis. Haf o Hud is a transaltion of Caryl Lewis' The Magician's Daughter.




Lladd Duw


Book Description

Dyma nofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch, Brithyll a Crawia. Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi'i lleoli yn Llundain a thref glan y mor ffuglennol. Mae'n ymdrin a chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, mae digon o hiwmor ynddi hefyd.