Bwystfilod a Bwganod


Book Description

Mae Hilda, Tom a Hywel yn dod at ei gilydd er mwyn helpu Teilo Siencyn, Prif Weinidog Cymru, i ddal bwystfilod fel y Leiac sy'n achosi anhrefn llwyr yn y wlad. Diolch byth fod gan Hywel hen lyfr o'r enw 'Bwystfilod a Bwganod'! Nofel arall gyffrous yng Nghyfres yr Onnen, ar gyfer plant 9 i 13 oed.




Meini Llafar


Book Description

Cyfrol o atgofion un o newyddiadurwyr ac awduron amlycaf Cymru, Lyn Ebenezer, yn cynnwys portreadau cynnes, crefftus o gymeriadau Pontrhydfendigaid ei blentyndod, ynghyd a'i bryddest i'w Wncwl Dai, a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, pryddest a ddaeth yn agos at gipio'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon, 2017.




The Blue Book of Nebo


Book Description

Nominated for the Yoto Carnegie Medal for Writing 2023 Dylan was six when The End came, back in 2018; when the electricity went off for good, and the 'normal' 21st-century world he knew disappeared. Now he's 14 and he and his mam have survived in their isolated hilltop house above the village of Nebo in north-west Wales, learning new skills, and returning to old ways of living. Despite their close understanding, the relationship between mother and son changes subtly as Dylan must take on adult responsibilities. And they each have their own secrets, which emerge as, in turn, they jot down their thoughts and memories win a found notebook - the Blue Book of Nebo.




Lladd Duw


Book Description

Dyma nofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch, Brithyll a Crawia. Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi'i lleoli yn Llundain a thref glan y mor ffuglennol. Mae'n ymdrin a chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, mae digon o hiwmor ynddi hefyd.




Blasu


Book Description

Wrth edrych yn ol ar ei bywyd, a'r teulu a'r ffrindiau a fu'n gwmni iddi ar hyd y daith, daw blasau o'r gorffennol i brocio atgofion Pegi. Ond nid yw pob atgof yn felys, ac mae rhai cyfrinachau'n gadael blas chwerw.




Trwy'r Tonnau


Book Description

Yn y dilyniant hwn i'r nofel Trwy'r Darlun, mae Cledwyn, Sian a Gili DAu'n cael antur arall. Mae Trwy'r Tonnau yn datrys mwy o ddirgelion am eu rhieni a chawn gwrdd a chymeriadau newydd sbon. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2010.




Pluen


Book Description

Nofel i blant hA*n a phobl ifainc gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros, sy'n dilyn hanes Huw wrth iddo baratoi prosiect am yr Ail Ryfel Byd dros yr haf. Ond mae pethau rhyfedd yn digwydd pan mae'n dechrau ymchwilio i gyfrinach brawd ei nain, a hithau yn dioddef o dementia. Nofel annwyl gyda chymeriadau cryf, themau heriol a neges bwysig. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2017.




Inc


Book Description

Nofel fer, fachog gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru. Lluniau ar groen, dyna'r cyfan ydi tatAus. Ond i'r rhai sy'n dod i stiwdio tatAus Ows - ac i Ows ei hunan - maen nhw'n symbol o rywbeth dyfnach nag addurn o inc ar eu cyrff yn unig. Mae gan bawb ei reswm dros gael tatAu, a gall hwnnw fod yn un annisgwyl weithiau.




Fel Aderyn


Book Description

Nofel sy'n dilyn hynt a helynt Mina a'i theulu yn ystod yr ugeinfed ganrif. Cawn hanes ei mam a'r modd y collodd ei gAur yn yr Ail Ryfel Byd. Cawn hefyd stori Sybil, sy'n dod yn feichiog yn dilyn perthynas gydag athro, yn ogystal a Leusa, merch i bysgotwr, sy'n cael bywyd caled ar ol cael ei cham-drin gan ei thad. Nofel gofiadwy wedi'i lleoli yn ardal Tywyn/Aberdyfi.




Baba Hyll


Book Description

Nofel arall yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer yr arddegau cynnar. Mae Manon Steffan Ros wedi ennill Gwobr Tir na nOg 2010 (Trwy'r Tonnau) a Gwobr y Bobol Llyfr y Flwyddyn 2010 gyda'i nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn. Mae hefyd wedi cyhoeddi Hunllef yn y gyfres Stori Sydyn.Another novel in the Pen Dafad series for younger teenagers. Manon Steffan Ros won the Tir na nOg award (for Trwy'r Tonnau) and the Wales Book of the Year people's prize (for her adult novel Fel Aderyn), both in 2010. She has also published a novel, Hunllef, in the Stori Sydyn series.