Fel Aderyn


Book Description

Nofel sy'n dilyn hynt a helynt Mina a'i theulu yn ystod yr ugeinfed ganrif. Cawn hanes ei mam a'r modd y collodd ei gAur yn yr Ail Ryfel Byd. Cawn hefyd stori Sybil, sy'n dod yn feichiog yn dilyn perthynas gydag athro, yn ogystal a Leusa, merch i bysgotwr, sy'n cael bywyd caled ar ol cael ei cham-drin gan ei thad. Nofel gofiadwy wedi'i lleoli yn ardal Tywyn/Aberdyfi.




CBT Therapi Ymddygiad Gwybyddol


Book Description

Gallwch oresgyn ofnau, rheoli negyddiaeth a gwella'ch bywyd gyda therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).Yn aml, fe all newid ymddangos yn dasg amhosib, ond bydd y canllaw ymarferol yma'n gymorth i chi ei weld mewn persbectif. Gyda dwy arbenigwraig yn eich arwain, byddwch yn dod i adnabod y meddyliau a'r mathau o ymddygiad sy'n eich dal chi'n ol, ac yn datblygu sgiliau i feddwl yn fwy cadarnhaol, ymddwyn yn fwy digynnwrf a theimlo'n well amdanoch chi'ch hun.Gan ddefnyddio'r un dulliau ag ymarferwyr CBT, mae'r llyfr hwn yn llawn gweithgareddau ac arbrofion i archwilio a herio, straeon ac ymarferion i gynnig persbectif i chi, ac mae iddo fframwaith clir i'ch annog a'ch tywys. Bydd agwedd gyfeillgar a chefnogol yr awduron yn eich helpu i reoli'r adegau hynny pan fydd meddyliau ac ymddygiad negyddol yn ailgodi eu pen, ac i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarn.Mae CBT yn ymgorffori'r therapiau a'r ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys ACT ac ymwybyddiaeth ofalgar, ac yn mynd i'r afael yn benodol a thrafferthion fel diffyg cwsg ac iselder.




Haf o Hud


Book Description

Dyma stori ryfeddol am bŵer cymuned, sy'n rhoi cyfle i bawb serennu, gan yr awdur arobyn Caryl Lewis. Addasiad yw Haf o Hud o lyfr llwyddiannus Caryl Lewis, The Magician's Daughter. A miraculous story about the power of community and giving everyone a chance to shine, by the award-winning author Caryl Lewis. Haf o Hud is a transaltion of Caryl Lewis' The Magician's Daughter.




Camu


Book Description

Cyfres o ysgrifau hunangofiannol sydd yn gwibio trwy atgofion ond yn rhoi lle i'r dychymyg blethu lliw hefyd. Mae yr ysgrifau yn cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae y gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch. A series of biographical essays that move swiftly through memory but also give rein to imagination to weave colour. The essays comprise stories from Iola's childhood to the present day as she imagines what the future holds. The volume also faces sadness and challenges honestly and with conviction, that love can shine through darkness.




Croesi Llinell


Book Description




Y Ci a'r Brenin Hywel


Book Description

Teithiwch yn ol I oes y Brenin Hywel Dda a'I Gyfreithiau - a hynny yng nghwmni Griff y ci




Kate Roberts A'r Ystlum


Book Description

Sut fyddai Caradog Prichard yn ymdopi a cholli ei gof ar ol ymddeol? Beth ddigwyddodd i Evan Roberts ar ol i fwrlwm y Diwygiad ddod i ben? Beth allai fod wedi ysbrydoli Kate Roberts i feddwl am yr iaith Gymraeg fel ystlum mewn cerdd i'r Faner? Dyma rai o'r cwestiynau y mae dychymyg gogleisiol Mihangel Morgan yn ceisio'u hateb yn y casgliad hwn o straeon dyfeisgar.




Yr Ynys


Book Description

Y nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau hA*n. Mae Gwawr a Cai yn paratoi ar gyfer taith yn ol i'r Henwlad er mwyn darganfod mwy am fywyd eu hynafiaid cyn ffrwydriad dinistriol y Diwedd Mawr a gafodd effaith tyngedfennol ar y byd.




Hunllef


Book Description

Nofel ddirgelwch, lawn tensiwn gan un o awduron ifanc mwyaf talentog Cymru. Stori am ddyn ifanc yn symud tA* ar ol gwahanu oddi wrth ei wraig ac yn methu'n lan a deall yr hunllefau a gaiff yn ei gartref newydd, tan iddo ddod ar draws hen ddynes enigmatig.




Mamiaith


Book Description

Wedi'r cynhesu byd eang daeth y Toddi Mawr. Wedyn, daeth yr Arch. Mae rheolwr newydd yr Arch eisiau gwahardd siarad am byth. Ond Crefftwr Geiriau ydi Mair, a'i gwaith yw cadw'r geiriau'n fyw. Yng nghysgodion y coed, mae hi a'r crefftwyr eraill yn dysgu'r plant am iaith, cerddoriaeth a chelf.