Hi Oedd Fy Ffrind


Book Description

Dilyniant hirddisgwyliedig i'r nofel 'Hi yw fy Ffrind' a gyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Ceir mwy o helyntion y ddwy ffrind Nia a Non yn y Brifysgol, ond wedi'r hwyl a'r meddwi colegol daw diweddglo ysgytwol.




Hi yw fy Ffrind


Book Description

Nofel fywiog yn portreadu cyfeillgarwch dwy ferch wrth iddynt brofi hwyl a dwyster tyfu i fyny yng nghefn gwlad sir Feirionnydd rhwng yr 1960au a'r 1980au. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Nhachwedd 2004.




Hen Bethau Anghofiedig


Book Description

Un noson hir o aeaf, mae dau hen ffrind yn cwrdd ar daith dren. Mae gan Merfyn stori iasoer i'w rhannu, un sy'n dechrau gydag etifeddu clamp o dy ar ol ei fodryb, yr awdures enwog Mona Moffat. Mae ef a'i bartner, Harry, yn breuddwydio am adnewyddu'r hen le ac ymddeol a fywyd gwyllt dinas Llundain... ond wrth i Merfyn godi'r clawr ar orffennol ei deulu mae gwirioneddau erchyll yn bygwth eu rhewi hyd at fer eu hesgyrn. Stori ysbryd iasoer gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.




Trigo


Book Description

Stori epig, ffantasïol yw Trigo. Mae'r nofel yn ymwneud â dial a chyfiawnder, llygredd a phŵer, unigrwydd a chyfeillgarwch. Cawn hanes trigolion y Pedair Ynys a'r rhwystrau ddaw i'w rhan. Mae ynys fechan ger y Pedair Ynys o'r enw Ynys Trigo. Yno mae Calrach, wedi ei gloi yn Ogof Tywyllwch, ac mae'n ceisio dod o hyd i ffordd o ddianc... An epic, fantasy story about revenge and justice, corruption and power, loneliness and friendship. We learn of the obstacles facing the inhabitants of the Four Islands. On one of the islands, called Trigo, lives Calrach, who is locked in the Dark Cave, and is looking for a way to escape.




Ieuan Rhys


Book Description

I ddathlu 30 mlynedd o fod yn actor proffesiynol, dyma hunangofiant Ieuan Rhys, yr actor a'r diddanwr adnabyddus a fu'n chwarae rhan Sgt Glyn James, y bobi pentre, ar opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm am dair blynedd ar ddeg.




Yogi


Book Description

Hunangofiant dirdynnol Yogi, y chwaraewr rygbi a barlyswyd wrth chwarae rygbi i'r Bala. Dyma un o straeon tristaf ac anoddaf y byd rygbi yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd Yogi yn 49 oed, ac yn chwarae ei gem olaf i'r Bala, lle gwnaed ef yn gapten am y dydd, ond o fewn deg eiliad, chwalwyd ei fywyd yn llwyr. Datgymalodd sgrym gynta'r gem, a thorrodd Yogi ei wddwg.The traumatic autobiography of Yogi, the Bala rugby player who was paralysed while playing his final game for the club at 49 years of age. He had been made captain for the day, but within 10 seconds his life was shattered as the first scrum collapsed, and Yogi broke his neck. This is one of the sadddest and most painful rugby stories of recent years.




Annette


Book Description

Mae Annette Bryn Parri yn un o brif gerddorion a chyfeilyddion Cymru. Mae ei stori'n dechrau'n ferch fach yn cael gwersi piano. Bellach mae wedi teithio'r byd yn cyfeilio i gantorion megis Bryn Terfel a Gwyn Hughes Jones, ond mae ei gwreiddiau'n ddwfn ym mhentref Deiniolen.




Ddyled, Y


Book Description

Nofel am hanes hunllefus y Llwyd Owen arall - awdur enwog yn ei 40au hwyr sydd wedi troi ei gefn ar Gymru a blasu llwyddiant llenyddol anferthol yn yr Amerig a gweddill y byd (o dan yr enw Ffloyd Ewens).




Allan o'r cysgodion


Book Description

Cofiant Julian Lewis Jones, yr actor a'r cyflwynydd teledu. Mae wedi gwneud enw iddo'i hun fel actor yn Hollywood mewn ffilmiau fel Invictus gyda'r cyfarwyddwr Clint Eastwood, a Zero Dark Thirty, ffilm Kathryn Bigelow.




Deryn Glan I Ganu


Book Description

Yr ail gyfrol yng Nghyfres y Dderwen, sef nofelau heriol ar gyfer yr arddegau hwyr ac yn addas i oedolion yn ogystal. Cyfres o ymsonau sydd yma yn dangos ymateb y cymeriadau i'r un digwyddiadau, a'r cyfan yn cyrraedd diweddglo dirdynnol. Mae'n cynnwys themau cyfoes a pherthnasol i fywyd pobl ifainc.