Trwy'r Tonnau


Book Description

Yn y dilyniant hwn i'r nofel Trwy'r Darlun, mae Cledwyn, Sian a Gili DAu'n cael antur arall. Mae Trwy'r Tonnau yn datrys mwy o ddirgelion am eu rhieni a chawn gwrdd a chymeriadau newydd sbon. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2010.




Y Fro Dywyll


Book Description

Nofel hanesyddol gyffrous sy'n symud o Gymru i feysydd y Rhyfeloedd Cartref yn Lloegr ac i goedwigoedd gogledd America, wedi'i gosod ym merw un o'r cyfnodau mwyaf cythryblus yn hanes ynysoedd Prydain, yn wleidyddol ac yn grefyddol.







Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau


Book Description

Nofel feiddgar sy'n son am brofiadau ysgytwol a dialgar enaid ifanc a beiddgar sy'n garcharor i lygredd byd y cyfryngau. Gan 'athrylith pennaf' gwobr Daniel Owen 2005. Yn cynnwys rhegfeydd a chynnwys sy'n addas ar gyfer oedolion yn unig. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn Chwefror 2006.




Caersaint


Book Description

Nofel hirddisgwyliedig yr awdures dalentog Angharad Price, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gyda'r clasur O! Tyn y Gorchudd. Nofel yw hon am Jaman Jones sy'n dychwelyd i'w dref enedigol ar ol etifeddu tA* ei fodryb, ac mae'n cynnig sylwebaeth ddeifiol ar fywyd tref Gymreig ar ddechrau'r 21ain ganrif.




Essential 18000 Medical Words Dictionary In English-Welsh


Book Description

a great resource anywhere you go; it is an easy tool that has just the words you want and need! The entire dictionary is an alphabetical list of medical words with definitions. This eBook is an easy-to-understand guide to medical terms for anyone anyways at any time. The content of this eBook is only to be used for informational purposes. adnodd gwych lle bynnag y byddwch chi'n mynd; Mae'n offeryn hawdd sydd â'r geiriau rydych chi eu hangen ac sydd eu hangen! Mae'r geiriadur cyfan yn rhestr wyddor o eiriau meddygol gyda diffiniadau. Mae'r eLyfr hwn yn ganllaw hawdd ei ddeall i delerau meddygol ar gyfer unrhyw un anyways ar unrhyw adeg. Mae cynnwys yr eLyfr hwn ond i'w ddefnyddio at ddibenion gwybodaeth.




Brychan Llyr


Book Description

Y canwr o Aberteifi sy'n agor ei galon am ei frwydr ag alcoholiaeth mewn modd cignoeth a gonest. Trafodir hefyd ei gyfnod yn brif leisydd y band Jess a'i ddeng mlynedd yn gerddor proffesiynol yn yr Eidal, ynghyd a'i hanesion yn cystadlu ym myd peryglus rasio ceffylau pwynt i bwynt ac yn gyflwynydd teledu.




Y Gemydd


Book Description

Nofel sy'n cyfleu unigrwydd dirdynnol gyda phortreadau grymus o gymeriadau sy'n gweithio mewn marchnad sydd ar fin cau. Dilynir argyfwng Mair, sy'n gwneud bywoliaeth o drin gemau a chlirio tai, nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr...A novel which examines solitary lives, and provides powerful portrayals of characters who work in a market that's about to close. The narrative focuses on Mair who makes a living out of jewellery and house clearances - that is, until she finds one jewel that transforms her life completely.




Llanw


Book Description

Nofel arall eithriadol gan awdures Blasu... Mae Llanw yn byw mewn ty ar y traeth gyda Gorwel, ei hefell, a'u nain. Ond er bod traed y ferch ifanc freuddwydiol hon ar y tywod, mae ei phen yn y cymylau.




Pyrth Uffern


Book Description

Nofel gyffrous ac anturus yn adrodd hanes dau gyfnod cythryblus yn hanes bywyd DS Rolant Price o Adran Dditectifs Gerddi Hwyan. Mae un rhan o'r stori yn canolbwyntio ar ymdrechion obsesiynol 'Rol' i ddal troseddwr rhyw a llofrudd sy'n ysbeilio ar ferched ifanc yn y dref; a'r rhan arall yn dilyn ei ymdrechion i wella o'r chwalfa nerfol a brofodd yntau.