Book Description
Vaughan Roderick yw un o leisiau newyddiadurol pwysicaf a mwyaf awdurdodol Cymru yn y cyfnod modern. Ers diwedd y 1970au, mae Vaughan wedi tystio i nifer o'r digwyddiadau sydd wedi newid Cymru - o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith, streic y glowyr, y frwydr dros ddatganoli hyd at y bleidlais Brexit.