Y Ddwy Lisa - Sgrech y Dylluan


Book Description

Mae Y Ddwy Lisa yn adrodd hanes Lisa Angharad a Lisa Marie, y ddwy ar yr wyneb yn gymeriadau hollol wahanol i'w gilydd. Ond mae bywydau'r ddwy'n dod ynghyd mewn modd tywyll sydd y tu hwnt i realiti. Nofel sy'n dal gafael hyd at y diwedd.




Y Dyn Gwyrdd


Book Description

Un tro - yn reit ddiweddar, a dweud y gwir - roedd bachgen ifanc o'r enw Derwyn yn byw efo'i rieni mewn hen fwthyn yn y goedwig. Dysgai ei fam yn ysgol gynradd a'i dad yn yr ysgol uwchradd. Anodd iawn oedd dweud pa un ohonyn nhw oedd yn cwyno fwyaf.




Y Ty Ger y Traeth


Book Description

Nofel grefftus am wrthdaro a'r bwlch rhwng y cenedlaethau. Mae gan Sara broblemau emosiynol ac mae'n dianc o gartref ei rhieni yng Nghaerdydd at ei thaid - hen hipi sy'n byw ger y traeth ym Morfa Bychan. Nofel gyfoes gan awdur poblogaidd a thoreithiog.