Y Ty Ger y Traeth


Book Description

Nofel grefftus am wrthdaro a'r bwlch rhwng y cenedlaethau. Mae gan Sara broblemau emosiynol ac mae'n dianc o gartref ei rhieni yng Nghaerdydd at ei thaid - hen hipi sy'n byw ger y traeth ym Morfa Bychan. Nofel gyfoes gan awdur poblogaidd a thoreithiog.




Cymru fydd


Book Description




Jac


Book Description

Dyma'r nofel olaf yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer darllenwyr 11-15 oed. Mae Jac yn darganfod corff marw yn y twyni tywod ac yn benderfynol o fynd at wraidd y llofruddiaeth trwy helpu Jim, y ditectif. Nofel llawn antur, hiwmor ac erchylldra!




Efa


Book Description

Y nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer yr arddegau cynnar. Mae Efa yn ddarpar frenhines gwlad Melania ond mae hi'n gyndyn i ddilyn yr hen draddodiadau, gan gynnwys lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Yn y stori, dilynwn Efa yn brwydro yn erbyn ei thynged ei hun.










Mab y Cychwr


Book Description

Nofel hanesyddol sydd a llinyn storiol ddychmygol yn dilyn hanes bywyd y bardd Sion Phylip ar ddechrau'r 17eg ganrif.




Y Ddwy Lisa - Sgrech y Dylluan


Book Description

Mae Y Ddwy Lisa yn adrodd hanes Lisa Angharad a Lisa Marie, y ddwy ar yr wyneb yn gymeriadau hollol wahanol i'w gilydd. Ond mae bywydau'r ddwy'n dod ynghyd mewn modd tywyll sydd y tu hwnt i realiti. Nofel sy'n dal gafael hyd at y diwedd.







Y Dyn Gwyrdd


Book Description

Un tro - yn reit ddiweddar, a dweud y gwir - roedd bachgen ifanc o'r enw Derwyn yn byw efo'i rieni mewn hen fwthyn yn y goedwig. Dysgai ei fam yn ysgol gynradd a'i dad yn yr ysgol uwchradd. Anodd iawn oedd dweud pa un ohonyn nhw oedd yn cwyno fwyaf.